Aelodaeth
Aelodaeth Flynyddol 2024/25
Cyrhaeddodd niferoedd aelodaeth blynyddol Un Llais Cymru y lefel uchaf erioed o 92% yn ystod 2024/25. Mae hyn yn arbennig o foddhaol gan ein bod yn dathlu ein pen-blwydd yn 20 oed yn 2024, ar ôl cael ein sefydlu fel aelod-sefydliad yn 2004. Roedd hefyd yn disgyn ar 50 mlynedd ers ffurfio Cynghorau Cymuned a Thref yng Nghymru (1974).
Isod mae ffeithlun yn amlinellu ein hystadegau aelodaeth blynyddol ym mis Ebrill 2024:
Infograffeg Aelodaeth Flynyddol
Cyfrifir ffioedd Aelodaeth Blynyddol gan ddefnyddio ‘ceiniogau fesul cyfanswm nifer yr anheddau’ ym mhob ardal Cyngor Cymuned a Thref. Ceir y ffigurau hyn yn flynyddol gan yr Awdurdod Lleol priodol ac maent yn seiliedig ar ‘1 Ebrill’ ar gyfer y flwyddyn flaenorol. Ar gyfer ffioedd aelodaeth blynyddol 2025/26, byddwn yn defnyddio £0.43c fesul cyfanswm o anheddau. Dyma sut rydym yn cyfrifo’r ffi unigryw arfaethedig ar gyfer eich Cyngor.
Cysylltwch â ni os hoffech ddod yn aelod blynyddol o Un Llais Cymru. Mae llawer o fanteision pwysig a defnyddiol i fod yn aelod o Un Llais Cymru, a fydd ar gael i’ch Cyngor, Clerc, Aelodau a staff cyflogedig.
Peidiwch â chymryd ein gair ni, darllenwch y Tystebau gan Aelod Gynghorau – ac edrychwch ar ein tudalen Buddion Aelodaeth!
Isod mae copi o’n Llythyr Aelodaeth Blynyddol 2025/26 fel canllaw i ddod yn aelod:
Cysylltwch â ni os hoffech drafod dod yn aelod blynyddol o Un Llais Cymru:
[email protected] / 01269 595400 / 07917 846510