Cwestiynau Cyffredin (FAQs)
Beth yw Un Llais Cymru?
Un Llais Cymru yw’r corff cynrychioliadol cenedlaethol ar gyfer Cynghorau Cymuned a Thref yng Nghymru.
Beth mae’n ei wneud? Rydym yn darparu cyngor, hyfforddiant, ymgynghoriaeth a chyfleoedd datblygu i Gynghorau sy’n aelodau. Rydym hefyd yn darparu cyfleoedd hyfforddi i gynghorau nad ydynt yn aelodau ond mae’r ffioedd a godir yn uwch.
Rydym yn lobïo ar ran Cynghorau Cymuned a Thref, yn ymateb i ymarferion ymgynghori ac yn gweithio gyda phartneriaid ar draws y dirwedd economaidd, cymdeithasol a gwleidyddol.
A yw’n orfodol ymuno?
Dim o gwbl, ond rydym wrth ein bodd bod dros 674 o Gynghorau wedi cydnabod gwerth aelodaeth ac wedi ymuno. Mae hynny dros 92% o holl Gynghorau Cymuned a Thref Cymru!
Sut gall fy Nghyngor ddod yn aelod?
Yn syml, Cysylltwch â Ni a byddwn yn anfon manylion llawn atoch. Astudiwch y wybodaeth a gofynnwch i’ch Cyngor gymeradwyo’r aelodaeth.
A oes tâl aelodaeth i ymuno?
Oes. Credwn fod aelodaeth yn cynrychioli gwerth gwych am arian. Edrychwch ar yr hyn y mae Cynghorau yn ei ddweud amdanom yma.
Ydy Un Llais Cymru yn sefydliad dwyieithog?
Ydy.
A all Un Llais Cymru gynghori Cynghorwyr unigol?
Na. Mae’r Cyngor cyfan yn aelod fel corff corfforaethol. Mae’r holl ohebiaeth drwy’r Clerc, Cadeirydd, neu Gynghorydd a enwebir gan y Cadeirydd.
Ydy Cynghorau’n gallu cymryd rhan yng ngwaith Un Llais Cymru?
Ydyn wir! Mae cynghorau yn penodi cynrychiolwyr i fynychu cyfarfodydd Pwyllgorau Ardal lle rhennir llawer o wybodaeth ddefnyddiol.
Mae cynghorwyr yn ffurfio pob un o’n pwyllgorau eraill ac yn gwneud penderfyniadau ar bethau fel cyllid, polisi a strategaeth gyffredinol y sefydliad.
Sut mae dod o hyd i fanylion cyrsiau hyfforddi?
Cliciwch yma!
Hefyd ewch i’n tudalen dyddiadau hyfforddiant ac i archebu lle ar ein cyrsiau.
Sut mae Un Llais Cymru yn hysbysu Cynghorau am yr hyn sy’n digwydd?
Mae ein e-fwletin rheolaidd yn rhoi gwybodaeth am bolisïau, deddfwriaeth, newyddion a swyddi gwag.
A all pob Cyngor gael mynediad at wybodaeth ar y wefan?
Mae rhywfaint o wybodaeth ar gael i bob Cyngor, ond, gan ein bod yn sefydliad sy’n aelodau’n unig, mae’r rhan fwyaf o’r wybodaeth wedi’i chyfyngu i Gynghorau sy’n aelodau. Rhoddir manylion mewngofnodi i’r Clerc.
Ydy Un Llais Cymru ar gyfryngau cymdeithasol?
Ydyn! Rydym yn brysur ar X, gyda thua mil o ddilynwyr: @unllaiscymru. Rydym hefyd yn weithredol ar draws llwyfannau eraill gan gynnwys Facebook, LinkedIn ac mae gennym sianel You Tube – gwyliwch ein fideos yma.
Un ffaith nad oeddech yn gwybod am Un Llais Cymru?
Mae ein digwyddiadau Gwobrau Cenedlaethol Blynyddol yn mynd o nerth i nerth bob blwyddyn.
Yn olaf, sut gallwn ni gysylltu ag Un Llais Cymru?
Mae hynny’n hawdd! Cliciwch yma.
Gallwch hefyd ysgrifennu atom:
Un Llais Cymru
24c Heol y Coleg
Rhydaman
sir Gaerfyrddin
SA18 3AF