Am Un Llais Cymru
Sut rydym yn gweithio
Corff cynrychioliadol yw Un Llais Cymru.

Cynghorau: Cysylltu ag Un Llais Cymru
Corff cynrychioliadol yw Un Llais Cymru.
Mae pob Cyngor sy’n aelod o Un Llais Cymru yn talu ffi flynyddol. Mae’r ffi yn gymesur â maint y gymuned a wasanaethir gan bob Cyngor. Rydym yn cefnogi ein Haelod Gynghorau ac yn rhoi cyngor iddynt.
Mae pob Cyngor yn aelod fel corff corfforaethol. Y Cyngor ‘yn ei gyfanrwydd’ yw’r aelod, nid, er enghraifft, Cynghorwyr unigol neu’r Clerc.
Rhaid i bob cais am gyngor felly ddod drwy Gadeirydd y Cyngor neu Glerc y Cyngor. Mae hyn yn sicrhau ein bod yn darparu cefnogaeth gyson i’r Cyngor cyfan. Mae ein hyswiriant yn ein hatal rhag rhoi cyngor yn uniongyrchol i Gynghorwyr unigol.
Dylai cynghorau roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni am unrhyw newidiadau i wneud yn siŵr bod gennym y manylion cyswllt cywir ar gyfer Cadeirydd a Chlerc pob Cyngor.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalennau Aelodaeth a chofiwch gysylltu os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach.