Cyfleoedd
Ydych chi’n chwilio am ofod arddangos yn un o’n digwyddiadau cenedlaethol? Hoffech chi noddi categori gwobrau yn ein Cynhadledd Gwobrau Cenedlaethol? Oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn brif noddwr ein Cynhadledd Arfer Arloesol nesaf?
Os ateboch yn gadarnhaol i unrhyw un o’r cwestiynau hyn, edrychwch ar yr hyn y gall Un Llais Cymru ei wneud i chi yn 2025!!

Mae Un Llais Cymru yn cynnig cyfleoedd nawdd gwerthfawr. Gallwn gynnig nawdd i ddigwyddiadau ar gyfer ein cyfres o gynadleddau a digwyddiadau cenedlaethol blynyddol, hysbysebion yn ein cyhoeddiadau ac adroddiadau ar ôl y digwyddiad, ac ar ein llwyfannau cyfryngau cymdeithasol ar gyfer gwahanol ddigwyddiadau a gweithgareddau hyrwyddo.
Mae’r rhain yn gyfleoedd delfrydol i hyrwyddo’ch sefydliad i’n Haelod Gynghorau ledled Cymru.
Os oes gennych ddiddordeb yn unrhyw un o’r cyfleoedd uchod, e-bostiwch Maria Mulcahy: MMulcahy@unllaiscymru.cymru neu ffoniwch hi ar 01269 595400. Cysylltwch nawr i ddarganfod mwy!
Cynadleddau a Digwyddiadau Cenedlaethol
Mae Un Llais Cymru yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid strategol a rhanddeiliaid i gynnig amrywiaeth o ddigwyddiadau pwysig i Gynghorau Cymuned a Thref o bob rhan o Gymru. Rydym yn adeiladu ar berthnasoedd masnachol sydd wedi’u hen sefydlu gyda chyflenwyr allweddol i’r sector cynghorau lleol yng Nghymru. Edrychwch ar ein digwyddiadau sydd i ddod ar ein Calendr ar-lein, yn ogystal â mwy o wybodaeth ar ein tudalen Digwyddiadau.
Cyfleoedd Nawdd
Mae Un Llais Cymru yn cynnig cyfleoedd gwerthfawr i gyflenwyr farchnata eu cynnyrch a’u gwasanaethau i dros 732 o Gynghorau Cymuned a Thref yng Nghymru. Gellir cyflawni hyn trwy brynu gofod gwe o dan ein Cyfeiriadur Cyflenwyr, trwy archebu gofod arddangos yn ein Cynadleddau a digwyddiadau mawr, yn ogystal ag yn ein 16 Pwyllgor Ardal a gynhelir mewn cymunedau ledled Cymru. Mae hwn yn gyfle delfrydol i farchnata’ch sefydliad i’n Haelod Gynghorau y mae dros 92% ohonynt yn aelodau blynyddol gyda ni.
Cysylltwch â ni am sgwrs anffurfiol am y gyfres o gyfleoedd noddi sydd gennym i’w cynnig, gan gynnwys digwyddiadau blynyddol mawr, cynadleddau, gweminarau, gweminarau ar y cyd â phartneriaid strategol, cyfarfodydd rhanbarthol Pwyllgorau Ardal (Gogledd Cymru, Canolbarth a Gorllewin Cymru, a De Cymru), cyfarfodydd ar-lein, ac yn ein cyhoeddiadau rheolaidd i’r sector cynghorau lleol yng Nghymru. Mae cyfleoedd hefyd i noddi Categori Gwobr fel rhan o’n Cynhadledd Gwobrau Cenedlaethol flynyddol fawreddog.
Rydym yn cynnig prisiau rhesymol am y gwasanaethau hyn – cysylltwch â ni i drafod ymhellach. Os oes gennych chi ddiddordeb yn unrhyw un o’r cyfleoedd uchod, e-bostiwch Maria Mulcahy: MMulcahy@unllaiscymru.cymru
neu ffoniwch 01269 595400. Cysylltwch nawr i ddarganfod mwy!
Cyfleoedd Masnachol
Cysylltwch â ni am sgwrs anffurfiol am y cyfleoedd masnachol y gallwn eu cynnig i gwmnïau preifat a sefydliadau cyhoeddus gan gynnwys mannau arddangos yn ein digwyddiadau blynyddol mawr a chynadleddau lle gall cyflenwyr hyrwyddo eu cynnyrch a’u gwasanaethau, yn ogystal â gweminarau ar y cyd â phartneriaid strategol ac yn ein cyhoeddiadau rheolaidd i’r sector.
Rydym yn cynnig prisiau rhesymol am y gwasanaethau hyn – cysylltwch â ni i drafod ymhellach. Isod mae ein Llyfryn Cyfleoedd Masnachol diweddaraf (Saesneg yn unig ar hyn o bryd):
Llyfryn Cyfleoedd Masnachol 2024/25
Os oes gennych ddiddordeb yn unrhyw un o’r cyfleoedd uchod, e-bostiwch Maria Mulcahy: MMulcahy@unllaiscymru.cymru neu ffoniwch y swyddfa ar 01269 595400. Cysylltwch nawr i ddarganfod mwy!
Cyfeiriadur Cyflenwyr
Mae Aelod Gynghorau yn ein hysbysu y byddai cael mynediad at bwynt gwybodaeth canolog wrth ddod o hyd i wasanaethau yn eu cymuned o gymorth mawr, yn enwedig pan fo angen o leiaf dri dyfynbris i sicrhau gwerth am arian ac i gydymffurfio â’r Rheolau Sefydlog.
Ar hyn o bryd rydym yn llunio cyfeiriadur o wasanaethau lleol a chenedlaethol i helpu cynghorau a bydd tudalen ddynodedig ar ein gwefan yn dilyn.
Hoffem i Aelod Gynghorau ein hysbysu am unrhyw gyflenwyr gwasanaeth sy’n perfformio’n dda y maent yn eu defnyddio, fel y gallwn gysylltu â nhw. Cysylltwch â ni drwy e-bostio: gweinydd@unllaiscymru.cymru
Os oes gennych ddiddordeb yn unrhyw un o’r cyfleoedd uchod, e-bostiwch Maria Mulcahy: MMulcahy@unllaiscymru.cymru neu ffoniwch 01269 595400.
Cysylltwch nawr i drafod eich gofynion. Bydd angen i chi lenwi ffurflen fer yn unig, a byddwn ni’n gwneud y gweddill. Edrychwn ymlaen at glywed oddi wrthych!