Argyfwng Costau Byw
Mae Prosiect Argyfwng Costau Byw Un Llais Cymru yma i helpu Cynghorau Cymuned a Thref i gefnogi eu cymunedau drwy heriau parhaus yr argyfwng costau byw.
Pam Mae’n Bwysig
Mae’r argyfwng yn parhau i ddyfnhau, gan gynyddu caledi ariannol a thlodi. Fel y pwynt cyswllt agosaf ar gyfer trigolion bregus, mae Cynghorau Cymuned a Thref yn chwarae rhan hanfodol wrth ddarparu cefnogaeth. Mae llawer o gynghorau eisoes wedi rhoi mentrau effeithiol ar waith, ac mae Un Llais Cymru wedi ymrwymo i’w helpu i gynnal ac ehangu eu hymdrechion.
Darllenwch yr Adroddiad Arolwg Argyfwng Costau Byw isod: