Cynadleddau a Digwyddiadau
Cynadleddau a Gweminarau ar y Cyd

Mae Un Llais Cymru yn cynnig cyfres o gynadleddau a digwyddiadau thematig ar y cyd trwy gydol y flwyddyn galendr. Mae’r rhain fel arfer yn ddigwyddiadau rhithwir/ar-lein gan gynnwys gweminarau, cyfarfodydd, cyngor ac arweiniad, ac weithiau hyfforddiant ac ymgynghoriadau. Rydym yn gweithio’n agos gyda’n partneriaid strategol i gynnig y cyfleoedd gorau i Gynghorau Cymuned a Thref gymryd rhan yn y digwyddiadau hyn ac i gael y wybodaeth ddiweddaraf am newidiadau pwysig i bolisïau a deddfwriaeth o fewn y sector.
Mae digwyddiadau ar y cyd sydd ar ddod yn ymddangos isod.
Digwyddiad ar y cyd Un Llais Cymru a Chymorth Cynllunio Cymru – dydd Iau 27 Mawrth rhwng 10:00am a 1:30pm, o bell drwy Zoom:
“Deall y System Gynllunio – atebion i’ch cwestiynau”
Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod Un Llais Cymru a Chymorth Cynllunio Cymru wedi dod at ei gilydd unwaith eto i ddarparu digwyddiad rhwydwaith ar y cyd i Gynghorau Cymuned a Thref a fydd yn galluogi cynghorwyr a Chlercod i fod ar flaen y gad o ran syniadau cyfredol mewn perthynas â’r heriau a wynebir gan ein cymunedau a’n trefi. Bydd y digwyddiad yn rhoi sylw i gynaliadwyedd a sicrhau llwyddiant wrth i ni ganolbwyntio ein hymdrechion ar y canlyniadau gorau i bobl Cymru.
Rydym i gyd yn gweithio’n galed i greu dyfodol cynaliadwy ar gyfer y cenedlaethau nesaf. Ond sut gall ein cymunedau Cymreig chwarae mwy o ran yn yr her anodd hon?
Rydym yn ffodus i gael siaradwyr allweddol o Lywodraeth Cymru sy’n gweithio ar weledigaeth a rennir ynghylch y ffordd y gall Cymru gyflawni’r newidiadau sydd eu hangen i ddiwallu’r angen cynyddol am dai a gwella effeithiolrwydd y system gynllunio. Bydd y digwyddiad yn galluogi cynghorau i wybod mwy am Ddeddf Seilwaith (Cymru) 2024 newydd a’i pherthnasedd i gymunedau lleol. Byddwn yn cynnwys nifer o astudiaethau achos i gefnogi gwell dealltwriaeth o sut mae’r system gynllunio yn effeithio ar ddatblygiad a chynaliadwyedd cymunedau.
Byddwn hefyd yn edrych ar rai o nodweddion craidd y system gynllunio yn enwedig nodiadau cynghori technegol sydd â lle amlwg iawn wrth gefnogi penderfyniadau ar geisiadau cynllunio. Byddwn hefyd yn cynnwys sesiwn ar ddarparu canllawiau i gynghorau ar yr hyn y dylent ei ystyried wrth wneud sylwadau ar geisiadau cynllunio.
Bydd hwn yn ddigwyddiad diddorol i bawb sydd â diddordeb mewn Cynllunio, cynaliadwyedd a mynd i’r afael â materion lleol mewn dull sydd wedi’i gynllunio’n dda. Bydd cyfle i gael trafodaeth agored rhwng yr holl gynrychiolwyr a’r siaradwyr.
Yn gyffredinol, mae’r digwyddiad yn argoeli i fod yn brofiad hynod addysgiadol a chadarnhaol i arweinwyr cymunedol yng Nghymru gan eu galluogi i fyfyrio ar eu profiad personol eu hunain o fywyd yn eu cymunedau a’u trefi ac i asesu gyda’u cynghorau ar ôl y digwyddiad sut y gall gweithredu ar lefel leol fod mor bwysig wrth helpu eu cymuned eu hunain i ddatblygu cyfleoedd ffres sydd wedi’u dylunio i greu dyfodol gwell i bawb.
Gellir archebu’n uniongyrchol gyda Chymorth Cynllunio Cymru drwy ddefnyddio’r ddolen we isod:
Mae digwyddiadau eraill yn ymddangos isod.
Peidiwch ag anghofio ymweld â’n Calendr ar-lein i weld beth rydyn ni wedi’i drefnu ar gyfer 2025!
Cysylltwch â ni os hoffech ddysgu mwy am ein gweithgareddau a digwyddiadau cydweithio, e-bostiwch [email protected] neu ffoniwch y swyddfa ar 01269 595400.