Cynhadledd Arfer Arloesol - Un Llais Cymru
Mynd i'r cynnwys

Rydym yn trefnu Cynhadledd Arfer Arloesol genedlaethol bob mis Hydref. Isod mae rhagor o wybodaeth am ein Cynhadledd Arfer Arloesol flynyddol a sut i gymryd rhan.

Cynhadledd Arfer Arloesol 2024

Roedd cynhadledd 2024 yn ymwneud ag arfer arloesol, a’r teitl oedd “Mynd i’r afael ag anghenion amrywiol ein cymunedau.” Anogodd Cadeirydd Un Llais Cymru y cynadleddwyr i roi eu cymunedau’n gyntaf, blaenoriaethu trigolion drwy wrando ar eu hanghenion, dysgu am yr arfer da a ddarperir ledled Cymru a hyrwyddo’r profiadau hynny o fewn eu cymunedau.

Isod mae copi o’n Hadroddiad Cynhadledd Arfer Arloesol 2024.

Cynhelir ein Cynhadledd Arfer Arloesol 2025 ar 2 Gorffennaf 2025. Arbedwch y dyddiad!

Cysylltwch â ni os hoffech gymryd rhan yn nigwyddiadau Gwobrau Cenedlaethol yn y dyfodol neu os hoffech noddi’r digwyddiad/gwobr, neu gael stondin arddangos yn y digwyddiad cenedlaethol mawr hwn.