Digwyddiad
Diwrnod VE 80

DIWRNOD VE 80: Sut y bydd y genedl yn cofio arwyr syrthiedig ac yn dathlu’r heddwch ar ôl chwe blynedd o ryfel.
Ddydd Iau 8 Mai 2025 bydd y genedl yn dod at ei gilydd i gofio’r miliynau a dalodd yr aberth eithaf yn ymladd a sicrhau’r rhyddid yr ydym i gyd yn ei fwynhau heddiw.
O’r bore bach pan fydd yr haul yn codi i’r hwyr wrth i’r nos ddisgyn, bydd clychau’r eglwys yn canu, bydd baneri arbennig yn cael eu chwifio, bydd crïwyr y dref yn cyhoeddi’r fuddugoliaeth, bydd sŵn brawychus y pibau’n llenwi’r awyr ac, mewn arwydd olaf o wrogaeth, bydd goleuadau a ‘Lamp Lights of Peace’ yn cael eu cynnau i ddynodi’r golau a ddeilliodd o dywyllwch rhyfel.
Os hoffai eich Cyngor Cymuned neu Dref gymryd rhan yn y dathliadau, cysylltwch â Bruno Peaks, Pageantmaster (manylion isod).
Isod mae llythyr Un Llais Cymru a anfonwyd at bob Cyngor Cymuned a Thref ledled Cymru, yn ogystal â’r ddolen i’r wefan swyddogol. Mae copi o’r Datganiad i’r Wasg cysylltiedig a ‘Arweiniad i Gynghorau’ hefyd isod:
Llythyr at holl Glercod Cynghorau (ddwyieithog)
Gwefan swyddogol Diwrnod VE 80
Datganiad i’r Wasg Diwrnod VE 80
Arweinlyfr Pen-blwydd Diwrnod VE yn 80 oed
