Gwobrau Cenedlaethol 2025 - Un Llais Cymru
Mynd i'r cynnwys

Gwobrau Un Llais Cymru 2025

Bydd Un Llais Cymru yn cynnal ei Gwobrau Cenedlaethol ddydd Mercher 30 Ebrill 2025 yn Hafod a Hendre, Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, ger Llanfair-ym-Muallt, LD2 3SY.

Prif noddwr y gynhadledd yw Unity Trust Bank. Rydym yn hynod ddiolchgar am eu diddordeb a’u brwdfrydedd i noddi’r digwyddiad eleni.

Mae’r gwobrau hyn yn gyfle i bob Cyngor arddangos y gwasanaethau y mae’n eu darparu ar gyfer ei gymuned, ac yn gyfle i Gynghorwyr, Clercod a staff dderbyn y gydnabyddiaeth y maent yn ei haeddu.

Bydd y cofnodion yn cael eu defnyddio fel sail tystiolaeth i hysbysu Llywodraeth Cymru, Awdurdodau Unedol, y Trydydd Sector a phartneriaid allweddol eraill am y gwaith da y mae Cynghorau yn ei wneud yn eu cymunedau ledled Cymru a sut y gallant gefnogi gwaith y sector cynghorau lleol yn y dyfodol.

Bydd panel annibynnol sy’n cynnwys cyrff cynrychioliadol cenedlaethol yn beirniadu’r cofnodion. Bydd rhestr fer o enwebiadau ym mhob un o’r categorïau; gwahoddir pob un o’r Cynghorau ar y rhestr fer ar gyfer pob categori i gymryd rhan mewn arddangos menter eu Cyngor.

Yn ystod y Seremoni Wobrwyo, bydd yr enillwyr a’r rhai a ddaeth yn ail yn cael eu cyflwyno â’u gwobrau a’u tystysgrifau. Bydd Un Llais Cymru hefyd yn cyhoeddi adroddiad ar ôl y digwyddiad i’w rannu â chynghorau lleol a sefydliadau rhanddeiliaid ledled Cymru.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener 28 Chwefror 2025. Cynhelir panel beirniadu ar ôl y dyddiad hwn a bydd y cynghorau ar y rhestr fer ar gyfer pob categori yn cael eu hysbysu cyn gynted â phosibl ac yn cael eu gwahodd i baratoi cyflwyniad 10 munud (uchafswm) cyn y digwyddiad.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â Chynhadledd Gwobrau 2025, cysylltwch ag Emyr John, Swyddog Cyfathrebu: [email protected]

Enillwyr Gwobr Caerwyn Roberts 2024: Cyngor Tref Cricieth