Gwasanaeth
Adroddiad Blynyddol
Adroddiad Blynyddol
Yn Un Llais Cymru, rydym yn cynhyrchu adroddiad blynyddol sy’n disgrifio ein heffaith a’n cyflawniadau.
Mae ein Hadroddiad 2023-24 yn crynhoi ein prif lwyddiannau a lefelau aelodaeth cynyddol. Mae’n disgrifio ein trefniadau gweithio mewn partneriaeth a chyllid. Cysylltwch â ni os hoffech dderbyn copi electronig o’r adroddiad.
Mae uchafbwyntiau eraill yn cynnwys ein rhaglen hyfforddi Cynghorwyr, a threfniadau llywodraethu gwell. Rydym yn annog atebion digidol, yn ymateb i’r argyfwng Costau Byw, ac yn datblygu rhaglen Lleoedd Lleol i Natur. Gellir gweld manylion yr holl fentrau hyn ar draws y wefan hon.
Cyhoeddir ein Hadroddiad Blynyddol nesaf yn fuan. Bydd yn disgrifio ein cyflawniadau yn y meysydd allweddol hyn a llawer mwy.
Mae enghreifftiau o’n cyflawniadau a’n heffaith wedi’u nodi yn ein Cynllun Busnes, a’n llythyr aelodaeth blynyddol i Gynghorau. Gallwch ddarllen rhai o’r rhain isod.
Mae Un Llais Cymru yn credu bod Cynghorau Cymuned a Thref yn hanfodol i sicrhau adfywiad yn ein cymunedau yng Nghymru. Byddwn yn ymgysylltu â chyrff megis Llywodraeth Cymru, Senedd Cymru, Archwilio Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, Cymdeithas Genedlaethol y Cynghorau Lleol, Cymdeithas Clercod Cynghorau Lleol, Cymorth Cynllunio Cymru, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Cymru ac eraill i wireddu hyn.