Canllaw i'n Gwasanaethau Hyfforddi - Un Llais Cymru
Mynd i'r cynnwys

Ein Gwasanaethau Hyfforddi

Mae Un Llais Cymru yn darparu rôl hyfforddi gynhwysfawr ar gyfer aelodau Cynghorau Cymuned a Thref, clercod a staff. Rydym yn annog, datblygu a gwobrwyo ein haelodau. Rydym yn gweithio’n agos gyda’n Cymdeithion Hyfforddi a sefydliadau partner.

Cost yr hyfforddiant yw £40 i aelodau neu £63 y pen i’r rhai nad ydynt yn aelodau. Bydd cynrychiolwyr yn cael eu hanfonebu ar ôl i’r hyfforddiant ddigwydd. Ar hyn o bryd mae bwrsariaeth ar gael i Gynghorau cymwys (2024/25). Cysylltwch â ni os hoffech ragor o wybodaeth neu gyngor am ein gwasanaeth hyfforddi.

Mae’n bosibl y byddwn yn gallu cynnig atebion hyfforddi pwrpasol wedi’u teilwra i anghenion Cynghorau sydd angen hyfforddiant mewn meysydd nad ydynt yn cael eu cynnwys yn benodol gan y modiwlau safonol.

Os hoffai eich Cyngor ymholi am opsiynau posib, e-bostiwch Paul Egan: [email protected]

Gallwn hefyd gyflwyno unrhyw un o’r modiwlau safonol yn uniongyrchol i unrhyw un Cyngor neu grŵp o Gynghorau sy’n gallu cynnig lleoliad addas yn eu hardal leol. Anfonwch e-bost atom gyda’ch cais.

Hyfforddiant i Glercod

Beth yw ILCA?

Bydd yr offeryn dysgu sector-benodol lefel 2 ar-lein hwn yn cefnogi holl swyddogion cyngor newydd Cymru yn eu rolau yn ystod yr ychydig fisoedd cyntaf o gyflogaeth, yn ogystal â’r rhai sy’n dymuno mynd ymlaen a chwblhau eu cymhwyster lefel 3 CiLCA. Nod y cwrs yw rhoi cyflwyniad i waith cyngor lleol, y clerc a’i gynghorwyr.
Cysylltwch â’r SLCC am fwy o wybodaeth 01823 253646 / [email protected]

Mae CiLCA yn gymhwyster sylfaen ar gyfer swyddogion cynghorau lleol ac eraill sy’n gweithio gyda chynghorau lleol. Mae’n Dystysgrif mewn Gweinyddu Cynghorau Lleol a ddyfernir ar Lefel 3 y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol (FfCC) lle mae’n werth 20 credyd. Y Bwrdd Gwella a Datblygu (IDB) sy’n gweithio ar ran cynghorau lleol yn Lloegr a’r Grŵp Cynghori Cenedlaethol ar Hyfforddiant (NTAG) sy’n cynrychioli cynghorau lleol yng Nghymru sy’n berchen ar y cymhwyster ac yn ei reoli. Mae cynghorau lleol yn yr achos hwn yn gynghorau plwyf, tref, cymuned a chymdogaeth. Gweinyddir CiLCA gan Gymdeithas Clercod Cynghorau Lleol (SLCC).

Gwybodaeth ychwanegol (sylwer mai dim ond yn Saesneg y mae rhai o’r rhain ar gael):

CiLCA: cyflwyniad i Gynghorwyr (dim ond yn Saesneg yn unig)

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cymhwyster ILCA (Cyflwyniad i Weinyddu Cynghorau Lleol) a chymhwyster CiLCA Cymru.

Cliciwch yma i ymweld â gwefan SLCC (Cymdeithas Clercod Cynghorau Lleol) am ragor o wybodaeth a chyngor.