Mae’r sesiwn hon yn edrych ar y materion canlynol
- Sut maen nhw’n gwasanaethu eu cymunedau
- Byd cyfnewidiol cynghorau
- Beth sy’n gwneud cyngor da
- Eich rôl fel cynghorydd
- Eich ymrwymiad a’r Cod Ymddygiad
- Cyflawni eich dyletswyddau a chyfrifoldebau
- Bod yn llais y gymuned
- Y Cyngor fel Corff Corfforaethol
- Y “Tîm” o Aelodau a Staff
- Rôl y Cyngor
- Gweithio gydag Awdurdodau Unedol
- Adeiladu Gwaith Partneriaeth
Yn ystod y cyflwyniad byddwn yn edrych ar y cyngor fel corff corfforaethol, y ‘tîm’ o aelodau a staff, rôl y cyngor, gweithio gydag awdurdodau unedol, ac adeiladu gwaith partneriaeth gydag ystod ehangach o fudiadau. Erbyn diwedd y cyflwyniad hwn dylai fod gennych ddealltwriaeth dda o’r gwahanol gyfrifoldebau sydd gan gynghorau cymuned a thref ac o’r ffordd y mae eu rôl yn newid wrth wasanaethu cymunedau lleol yng Nghymru heddiw.
- Y Cynghorydd a’u Hymrwymiad
- Cofrestr o Fuddiannau
- Cod Ymddygiad ac Ymddygiad Moesegol
- Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau
- Trafod a Gwneud Penderfyniadau
- Cynrychioli eich Etholwyr
- Codi Pontydd
Yn ystod y cyflwyniad byddwn yn edrych ar y cynghorydd a’u hymrwymiad i swydd cynghorydd, y Gofrestr o Fuddiannau Aelodau, y Cod Ymddygiad a’r ymddygiad moesegol a ddisgwylir gan gynghorydd, rôl y Swyddog Monitro a’r Pwyllgor Safonau, rheolau trafod a gwneud penderfyniadau, sut i gynrychioli eich etholwyr, a’r angen i “godi pontydd” rhyngoch chi, y cyngor a phartïon eraill sydd â diddordeb.
- Contractau Cyflogaeth
- Rôl a Manyleb Person
- Recriwtio a Chadw Staff
- Disgyblaeth, Achwyniadau ac Apeliadau
- Iechyd a Diogelwch
- Hyfforddiant a Datblygiad
- Ffynonellau Cyngor
Yn ystod y cyflwyniad byddwn yn edrych ar rôl y cyngor fel cyflogydd. Byddwn yn edrych ar gontractau cyflogaeth ac ar sut mae’r rhain yn diffinio’r berthynas gyflogi, y rôl a’r fanyleb person, efallai eich bod yn adnabod y fanyleb rôl fel y ‘disgrifiad swydd’, recriwtio a chadw staff, beth ddylech wneud os yw pethau’n mynd o’i le, iechyd a diogelwch, ac efallai’n bwysicaf oll cael y gorau allan o bawb er mwyn helpu gwasanaethu eich cymuned leol, trwy hyfforddiant a datblygiad. Mae cyfraith ac arferion cyflogaeth yn faes cymhleth, ac felly’n olaf, byddwn yn gorffen trwy edrych ar rai ffynonellau cyngor.
- Dyletswyddau a grymoedd statudol
- Ultra Vires
- Grymoedd Dirprwyo
- Deddf yr Iaith Gymraeg
- Y ddyletswydd i hyrwyddo Cyfleoedd Cyfartal
- Diogelu Data a Deddf Rhyddid Gwybodaeth
- Ffynonellau cyngor
Yn ystod y cyflwyniad byddwn yn edrych ar nifer o ddeddfau a dyletswyddau cyfreithiol sy’n effeithio cynghorau cymuned a thref. Byddwn yn edrych ar ddyletswyddau a grymoedd statudol, egwyddor ‘ultra vires’, grymoedd dirprwyo, Deddf yr Iaith Gymraeg, y ddyletswydd i hyrwyddo cyfleoedd cyfartal a’r prif statudau a rheoliadau yn y maes hwn, diogelu data a Deddf Rhyddid Gwybodaeth ac yn olaf ffynonellau cyngor.
- Galw cyfarfodydd
- Mathau o gyfarfodydd
- Rheolau Sefydlog
- Agendau
- Cynnal y cyfarfod
- Pasio penderfyniadau
- Cofnodi trafodaethau
Yn ystod y cyflwyniad byddwn yn edrych ar wahanol agweddau ar gyfarfodydd cyngor. Byddwn yn siarad am alw cyfarfodydd, y gwahanol fathau o gyfarfodydd gan gynnwys Cyfarfodydd Statudol Blynyddol, Cyfarfodydd Arbennig a Chyfarfodydd Arferol, pwysigrwydd Rheolau Sefydlog, gosod a defnyddio agendau, cynnal y cyfarfod, pasio penderfyniadau, a chofnodi trafodaethau.
- Rôl y Swyddog Ariannol Cyfrifol
- Canllawiau Cyfrifo a Strategaeth
- Rheoliadau Ariannol ac Asesiadau Risg
- Cyllidebau a Phreseptau
- Archwilio Mewnol ac Allanol
- Yswiriant
- Grymoedd Incwm a Gwariant
- Ffynonellau Incwm Eraill
Yn ystod y cyflwyniad byddwn yn edrych ar yr holl feysydd pwysig o ran goruchwylio cyllid llywodraeth leol. Byddwn yn edrych ar rôl y Swyddog Ariannol Cyfrifol, rhai o egwyddorion cyffredinol cyfrifo, y prif reoliadau ariannol ac, yn bwysicaf, sut i asesu’r risgiau dan sylw, pennu cyllidebau a phreseptau, rhoi archwiliadau mewnol ac allanol cadarn ar waith, gofynion yswiriant y Cyngor, grymoedd incwm a gwariant y Cyngor, ac yn olaf ffynonellau incwm eraill. Mae hon yn agenda fawr, ac mae rheolaeth ariannol weithiau’n gallu ymddangos yn frawychus, ond nod y sesiwn yw rhoi ichi ddealltwriaeth o fframwaith ariannol y Cyngor, yr wybodaeth graidd y mae angen ichi’i chael, a ffynonellau gwybodaeth fanylach y dylech droi atynt pan mae angen.
Edrych ar gyfrifoldebau cyfreithiol Cynghorau ac amlygu’r prosesau a’r gweithdrefnau sydd eu hangen er mwyn cydymffurfio.
Nod y modwl rhagarweiniol hwn yw esbonio beth yw ystyr y term ‘ymgysylltiad cymunedol’ a sut all cynghorau a chynghorwyr wella’r ffordd y maen nhw’n ymgysylltu â’r cymunedau a wasanaethant. Trwy ddefnyddio dull rhyngweithiol, mae’r modwl yn esbonio pam, sut a ble mae cynghorwyr yn ymgysylltu â’u cymunedau ar hyn o bryd. Mae’r sesiwn yn cynnwys trosolwg byr o bolisïau cyhoeddus allweddol ar ymgysylltiad cymunedol ac mae’n trafod prif elfennau a therminoleg ymgysylltiad cymunedol. Mae cyfle i gynghorwyr rannu a dysgu o’u profiad personol a daw’r sesiwn i ben gydag ymarferiad cynllunio ymgysylltiad cymunedol.
Modiwl llawn gwybodaeth a rhyngweithiol sy’n rhoi cyfle i hyfforddeion ddeall egwyddorion bywyd cyhoeddus Nolan a datblygu dealltwriaeth drylwyr o’r Cod Ymddygiad a sut mae’n berthnasol i gynghorwyr lleol.
Mae’r modiwl yn ymwneud yn benodol gyda’r canlynol:
- Egwyddorion Nolan
- Beth y dylai ac na ddylai cynghorwyr ei wneud
- Diddordebau Personol / Diddordebau sy’n rhagfarnu
- Rhagderfyniad & Rhagduedd
- Sut mae’r Cod yn cael ei blismona
Bydd y dysgu yn cael ei atgyfnerthu drwy weithgareddau ymarferol, ac mae DVD o’r Ombwdsmon yn eglruo’i rol yn rhan o’r sesiwn.
Edrych ar rôl y Cadeirydd ac ar y materion cysylltiol ac amlygu gwahanol ddulliau o gadeirio cyfarfodydd yn effeithiol.
Modiwl 11 –
Cynllunio Cymunedol at Argyfwng – Ddim
ar gael ar hyn o bryd
Rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau i Gynghorau ar gyfer creu cynlluniau cymunedol a chael gwell dealltwriaeth o strategaeth a blaen gyllidebu.
Rhoi golwg ar y ffordd y gall Cynghorau adeiladu ar ddulliau o ymgysylltu â’r gymuned a chynnig arweinyddiaeth wirioneddol i helpu eu cymunedau a threfi dyfu a ffynnu.
Rhoi gwell dealltwriaeth i Gynghorau o gyfraith cydraddoldeb a Deddf yr Iaith Gymraeg a chynorthwyo Cynghorau i hyrwyddo cydraddoldeb ac osgoi gwahaniaethu annheg.
Rhoi gwell dealltwriaeth i Gynghorau o’r ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â Diogelu Data a Rhyddid Gwybodaeth.
Rhoi mwy o wybodaeth i Gynghorau am fanteision ymestyn at eu cymunedau trwy gyfathrebu electronaidd.
Galluogi Cynghorau i gael gwell dealltwriaeth o’r mathau o gynlluniau grantiau sydd ar gael ac i allu paratoi ceisiadau effeithiol i gefnogi prosiectau cyfalaf.
Rhoi golwg ar y ffyrdd y gall Cynghorau drefnu ar gyfer rheolaeth effeithiol ar eu staff.
Mae datganoli gwasanaethau yn fater pwysig yng Nghymru ar hyn o bryd, ac mae’r heriau a’r cyfleoedd mae’n eu creu yn fater sydd neu a fydd o bwys i’r rhan fwyaf o gynghorau cymuned a thref.
Mae’r modiwl hyfforddiant yn cynnig profiad hynod ryngweithiol i gynghorwyr a chlercod ac mae’n cynnwys y meysydd allweddol canlynol:
- Modelau ar gyfer trosglwyddo asedau
- Deall materion les a throsglwyddo rhydd-ddaliadau
- Modelau ar gyfer a dynesiadau tuag at Ddatganoli Gwasanaethau
- Symbyliadau Polisi
- Cyfleoedd, Peryglon a Deilliannau wedi’u Cynllunio
- Trefniadau Diwydrwydd Dyladwy
- Cyfrifoldebau Rheoli Asedau
- Rôl bwysig cynghorwyr
- Dulliau Ymgysylltu â’r Gymuned
Bydd y cwrs yn esbonio egwyddorion datblygu cynaliadwy ac yn cysylltu’r egwyddorion hyn ag anghenion a dyheadau’r cymunedau rydych yn eu gwasanaethu, adnabod polisïau perthnasol (e.e. Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015) a’u cysylltu â grymoedd a dyletswyddau cynghorau lleol, gan sicrhau eu bod yn barod i arwain proses o gynllunio ac adrodd ar ddatblygu cynaliadwy.
Anelir y cwrs hwn at adeiladu ar y wybodaeth a gasglwyd o fynychu Modiwl 6 Cyllid Llywodraeth Leol. Bydd yn apelio’n arbennig at Gadeiryddion, pobl sy’n gwasanaethu ar Bwyllgorau Cyllid ac at unrhyw gynghorydd sydd eisiau dysgu mwy am y fframwaith llywodraethiant ac atebolrwydd y mae disgwyl i gynghorau weithredu oddi fewn iddo.
Mae’r hyfforddiant mae’n cynnwys y meysydd allweddol canlynol:
- Llywodraethiant ac Atebolrwydd
- Rolau a Chyfrifoldebau
- Y Datganiad Llywodraethiant Blynyddol
- Y Datganiad Cyfrifon
- Adolygu Rheolyddion Mewnol
- Cydymffurfio â’r Gyfraith
- Hawliau Etholwyr
- Rheoli Risg
- Archwiliadau Mewnol
- Rhwymedigaethau ac Ymrwymiadau
- Cronfeydd Ymddiriedolaeth
- Cronfeydd wrth gefn a darpariaethau
- Buddsoddiadau
Er mwyn rhoi dealltwriaeth o berthnasedd ac effeithiolrwydd dulliau cyfryngu a chymodi wrth drin cwynion Cod Ymddygiad lefel isel ac ar gyfer materion cyflogaeth”.
Darparu canllaw ‘cam wrth gam’ ymarferol i Gynghorau Cymuned a Thref ar ymgymryd â phrosiect Trosglwyddo Asedau Cymunedol a chodi ymwybyddiaeth o rai o’r materion cyffredin allai godi a sut ellid eu goresgyn. Bydd hefyd yn amlygu rhai o’r sgiliau fydd eu hangen a’r offerynnau y gallwch eu defnyddio i wneud eich prosiect CAT yn llwyddiant.
Helpu Cynghorau Cymuned a Thref i weithredu oddi fewn i fframwaith cyfreithiol ac arfer da a gweld sut mae’r Pecyn yn helpu Cynghorau i fodloni gofynion cyfreithiol a chyflawni arfer da a deall fod gweithredu’n broffesiynol yn rhoi hyder i’r Cyngor, Swyddogion a’r Gymuned fod y Cyngor yn gymwys ymhob agwedd ar reolaeth ariannol, llywodraethiant a darparu gwasanaethau.
Cwrs 2-ran yn dysgu Cynghorau am hanfodion bioamrywiaeth, adferiad natur ac ecoleg maen nhw eu hangen i wneud penderfyniadau a Chynlluniau Gweithredu Bioamrywiaeth effeithiol. Mae’n dilyn yr un ‘5 piler bioamrywiaeth’ ag a gyflwynir yn y ddogfen ganllaw. Wedi bod ar y cwrs hwn bydd Cynghorau mewn gwell sefyllfa i ysgrifennu Cynlluniau Gweithredu Bioamrywiaeth ac Adroddiadau Adran 6 cadarn sy’n bodloni dyletswydd Adran 6 bioamrywiaeth a gwytnwch ecosystemau.
Cwrs a gyflwynir mewn 1 sesiwn sy’n amlinellu hanfodion rheoli prosiectau yng nghyd-destun prosiectau natur ac amgylcheddol. Bydd y taflenni’n cynnwys rhestr wirio prosiect ar gyfer Cynghorau i’w helpu i reoli prosiectau yn unol ag egwyddorion Bioamrywiaeth, mewn pryd ac o fewn y gyllideb. Gobeithir y bydd pob Cyngor sy’n mynychu’r cwrs wedi bod ar gwrs Hanfodion Bioamrywiaeth yn gyntaf.