Partneriaid - Un Llais Cymru
Mynd i'r cynnwys

Hoffech chi ddod yn sefydliad partner? Ydych chi’n rhanddeiliad yn eich cymuned?

A oes angen cymorth neu gyngor ar eich Cyngor ynghylch pa sefydliad i bartneru ag ef?

Os felly, edrychwch ar ein Partneriaid isod (nid yw’r rhestr hon yn hollgynhwysfawr) a naill ai cysylltwch ag Un Llais Cymru neu ewch i wefannau’r partneriaid am ragor o wybodaeth:


Llywodraeth Cymru

Mae gan Gymru ei llywodraeth ei hun, yn llunio polisïau a deddfau ar gyfer ein gwlad. Rydym yn gweithio i helpu i wella bywydau pobl Cymru a gwneud ein gwlad yn lle gwell i fyw a gweithio. Mae ein cyfrifoldebau yn cynnwys: addysg, iechyd, llywodraeth leol, trafnidiaeth, cynllunio, datblygu economaidd, gwasanaethau cymdeithasol, diwylliant, y Gymraeg, yr amgylchedd, amaethyddiaeth a materion gwledig. Rydym yn: gwneud penderfyniadau ar faterion sy’n ymwneud â’r meysydd hyn, ar gyfer Cymru gyfan; datblygu polisïau a’u gweithredu; a chynnig deddfau Cymreig (Biliau’r Senedd).

Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yn cynrychioli buddiannau llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru. Ei phrif ddibenion yw hybu gwell llywodraeth leol, hybu ei henw da a chefnogi awdurdodau i ddatblygu polisïau a blaenoriaethau a fydd yn gwella gwasanaethau cyhoeddus a democratiaeth.

Archwilio Cymru

Ein nod yw:
Sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli’n dda.
Egluro sut mae arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio a sut mae’n diwallu anghenion pobl.
Ysbrydoli a grymuso sector cyhoeddus Cymru i wella.

Cymdeithas Clercod Cynghorau Lleol (SLCC)

Fel y corff proffesiynol ar gyfer clercod cynghorau lleol ac uwch weithwyr y cyngor, rydym yn sicrhau bod ein haelodau’n meddu ar y wybodaeth, yr hyfforddiant a’r sgiliau angenrheidiol i ffynnu yn eu rôl a rhoi’r cymorth gorau i’w cyngor a’u cymuned.

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Sefydlwyd swyddfa Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ym mis Ebrill 2006 gan Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2005. Diwygiwyd y Ddeddf hon yn 2019 i ddod yn Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019. Y Goron sy’n penodi ‘Ombwdsmon’ ac mae’r Ombwdsmon presennol, Michelle Morris, wedi bod yn ei swydd ers mis Ebrill 2022.

Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Cymru

Corff annibynnol a Noddir gan Lywodraeth Cymru yw’r Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru a’i brif ddiben yw cyhoeddi rhaglen waith sy’n cadw’r trefniadau etholiadol ar gyfer y 22 prif gyngor dan arolwg, yn ogystal ag adolygu ffiniau etholaethau Senedd Cymru (Senedd).

Cymorth Cynllunio Cymru

Mae Cymorth Cynllunio Cymru yn sefydliad elusennol annibynnol sy’n helpu unigolion a chymunedau ledled Cymru i gymryd rhan yn fwy effeithiol yn y system gynllunio.

Cymdeithas Genedlaethol y Cynghorau Lleol (NALC)

Fel y corff cenedlaethol ar gyfer cynghorau plwyf a thref yn Lloegr, rydym yn gweithio gyda chymdeithasau sir i gefnogi a hyrwyddo’r cynghorau hyn. Cynghorau plwyf a thref yw curiad calon eu cymunedau, gan ddarparu gwasanaethau a sicrhau bod lleisiau lleol yn cael eu clywed.

Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC)

Fel y corff aelodaeth cenedlaethol ar gyfer mudiadau gwirfoddol yng Nghymru, mae CGGC yn bodoli i alluogi mudiadau gwirfoddol i wneud mwy o wahaniaeth gyda’i gilydd.

Cymunedau Digidol Cymru (CDC)

Mae CDC yn rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru a ddarperir gan Cwmpas mewn partneriaeth â rhaglen ‘Good Things Foundation’ a ddechreuodd yn 2019 a bydd yn rhedeg tan fis Mehefin 2025. Ffocws a nod CDC o 1 Ebrill 2024 – 30 Mehefin 2025 yw gwreiddio a phrif ffrydio cynhwysiant digidol o fewn meysydd thematig a nodwyd gan sicrhau perchnogaeth o gynhwysiant digidol.

Achub Bywyd Cymru

Sefydlwyd Achub Bywyd Cymru yn 2019 gan Lywodraeth Cymru i:
Sicrhau fod pobl yn gwybod beth i’w wneud os bydd ataliad ar y galon y tu allan i’r ysbyty yn digwydd;
Cynyddu nifer y bobl sy’n fodlon rhoi cynnig ar CPR;
Cynyddu dealltwriaeth y cyhoedd o ddiffibrilwyr; a
Gwneud yn siŵr bod siawns pawb o oroesi trawiad ar y galon y tu allan i’r ysbyty yr un fath ledled Cymru.

Sefydliad Materion Cymreig

Rydym yn felin drafod ac yn elusen, yn annibynnol ar y llywodraeth a phleidiau gwleidyddol.
Drwy ddod ag arbenigwyr o bob cefndir ynghyd, rydym yn llunio syniadau uchelgeisiol a gwybodus sy’n sicrhau ymrwymiadau gwleidyddol i wella ein democratiaeth a’n heconomi. Rydym yn darparu llwyfannau ar gyfer dadlau, cyfleoedd i bobl leisio’u barn ac ymchwil sy’n gosod yr agenda. Rydym yn cael ein hariannu gan ein haelodau, incwm o ein digwyddiadau a’n sesiynau hyfforddi, a’n cefnogi gan ymddiriedolaethau, sefydliadau a chyrff ariannu eraill. Rydym yn gyflogwr Cyflog Byw balch.

Cynnal Cymru – Sustain Wales

Ni yw’r prif sefydliad datblygu cynaliadwy yng Nghymru – gan alluogi gweithredu tuag at gymdeithas deg a chyfiawn, economi carbon isel ac amgylchedd naturiol ffyniannus.
Gyda’n nodau elusennol yn greiddiol i ni, rydym yn darparu cyngor, hyfforddiant a chysylltiadau i helpu sefydliadau i wneud penderfyniadau beiddgar ar gyfer dyfodol tecach a mwy diogel.

Partneriaethau Natur Lleol Cymru

Nod Prosiect Partneriaeth Natur Leol (LNP) Cymru yw adeiladu rhwydwaith adfer natur ledled Cymru, gan gynnwys pobl, cymunedau, busnesau a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau mewn camau gweithredu ymarferol a chynllunio strategol ar gyfer Cymru iach, gydnerth a chyfoethog ei natur. Mae’n gynllun parhaus a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac a gydlynir gan WCVA. Mae’r bartneriaeth yn cynnwys pob awdurdod lleol a pharc cenedlaethol yng Nghymru, Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru, WCVA a’r Canolfannau Cofnodion Amgylchedd Lleol (LERC).

Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru

Mae Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru (PBC) yn dwyn ynghyd chwaraewyr allweddol o’r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol i hyrwyddo a monitro bioamrywiaeth a gweithredu ar yr ecosystem yng Nghymru. Mae PBC yn darparu rôl arwain a llywio arbenigol ar flaenoriaethau ar gyfer gweithredu ar fioamrywiaeth ac ecosystemau yng Nghymru.

Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol

Rydym yn elusen ledled y DU sy’n cefnogi cymunedau i ffermio, garddio a thyfu gyda’i gilydd.
Ein gweledigaeth yw gweld pobl a chymunedau’n cyrraedd eu llawn botensial trwy weithgareddau sy’n seiliedig ar natur fel rhan o fywyd bob dydd. Ein cenhadaeth yw gwella iechyd a lles unigolion, cymunedau a’r amgylchedd trwy weithgareddau sy’n seiliedig ar natur.

Age Cymru

Age Cymru yw’r elusen genedlaethol ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru ac rydyn ni yma pan mae ein hangen fwyaf. Yn fwy nag erioed o’r blaen, mae pobl hŷn yn wynebu rhai o’r heriau anoddaf y gellir eu dychmygu. Mae rhai yn byw mewn tlodi neu ni allant gael y gofal sylfaenol sydd ei angen arnynt i fyw ag urddas. Yn anffodus, mae pobl hŷn yn aml yn gorfod wynebu’r problemau hyn heb neb i’w helpu na’u cefnogi – mae unigrwydd yn frwydr ddyddiol pan mai dim ond y teledu neu’r radio sydd gennych i gadw cwmni i chi. Dyna pam mae Age Cymru yma. Ein gweledigaeth yw cymdeithas sy’n cynnig y profiad gorau o yn hyn oes i bawb yng Nghymru. Mae pobl hŷn yn cael eu gwerthfawrogi, yn cael eu cynnwys ac yn gallu llywio penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau. Ein cenhadaeth yw gwella bywydau pobl hŷn drwy ddarparu cyngor , cefnogaeth a gwasanaethau y gellir ymddiried ynddynt. Rydym yn defnyddio ein gwybodaeth, mewnwelediad a phrofiad i ddylanwadu ar bolisïau a phenderfyniadau sy’n effeithio ar bobl hŷn.

Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru (CFfI)

Mae Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru yn fudiad ieuenctid gwirfoddol sy’n gweithredu’n ddwyieithog ledled Cymru wledig. Mae dros 5,000 o bobl ifanc rhwng 10 a 28 oed yn aelodau o’r mudiad ar hyn o bryd, pob un ohonynt yn aelodau o rwydwaith o 138 o Glybiau CFfI a deuddeg Ffederasiwn Sirol.

PLANED

GRYMUSO CYMUNEDAU: Gweithio gyda chymunedau ar draws Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion i gefnogi darpariaeth yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol.

4theregion

Am dde-orllewin hapusach ac iachach gydag economi ffyniannus.
Mae 4theRegion yn cysylltu pobl, busnesau a sefydliadau i gydweithio ar atebion ymarferol sy’n cryfhau De-orllewin Cymru. Drwy adeiladu partneriaethau a rhwydweithiau, rydym yn creu cyfleoedd ar gyfer gweithredu ar y cyd ar gyfer economi ffyniannus, cymunedau gwydn, a dyfodol cynaliadwy, ar draws Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.

Cronfa Treftadaeth

Ni yw’r cyllidwr mwyaf ar gyfer treftadaeth y DU. Gan ddefnyddio arian a godwyd gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, rydym yn dosbarthu grantiau rhwng £10,000 a £10miliwn i gefnogi prosiectau ledled y DU sy’n cysylltu pobl a chymunedau â’u treftadaeth. Rydym hefyd yn dosbarthu cyllid treftadaeth ar ran y DU a llywodraethau datganoledig. Gall treftadaeth fod yn unrhyw beth o’r gorffennol yr ydych yn ei werthfawrogi ac am ei drosglwyddo i genedlaethau’r dyfodol. Mae deall, gwerthfawrogi a rhannu ein treftadaeth yn dod â phobl ynghyd, yn ysbrydoli balchder yn eu lle ac yn cefnogi economïau lleol.

Cymdeithas Cludiant Cymunedol

Mae trafnidiaeth gymunedol yn ymwneud â darparu atebion hyblyg a hygyrch a arweinir gan y gymuned mewn ymateb i anghenion trafnidiaeth lleol nad ydynt yn cael eu diwallu. Mae’r Gymdeithas Cludiant Cymunedol (CTA) yn arwain mudiad cludiant cymunedol ffyniannus yn y DU. CTA hefyd yw gweinyddwr cenedlaethol MiDAS – y Cynllun Ymwybyddiaeth Gyrwyr Bws Mini, sydd wedi bod yn safon aur ar gyfer gwella diogelwch a gofal teithwyr ers bron i 30 mlynedd.

Trafnidiaeth Cymunedol Dolen Teifi

Rydym yn sefydliad dielw ac yn elusen gofrestredig sy’n ceisio darparu trafnidiaeth fforddiadwy a hygyrch i unigolion, sefydliadau a grwpiau er mwyn helpu i gyflawni newid cymdeithasol yn ein cymuned yn siroedd Caerfyrddin a Cheredigion.   Rydym yn llogi ein bysiau i grwpiau cymunedol, unigolion, a sefydliadau o gymunedau yng Ngheredigion a Chaerfyrddin.

Dyfodol Gwledig

Mae Dyfodol Gwledig yn rhaglen cymorth cymunedol sy’n darparu cyngor a chymorth i gymunedau ledled Cymru (Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Powys, Ceredigion, Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro, Sir Fynwy), i gefnogi a galluogi cymunedau lleol yng Nghymru i fynd i’r afael â’r materion sy’n gysylltiedig â byw mewn ardaloedd gwledig a chreu atebion hirdymor effeithiol iddynt.

Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliad y Merched – Cymru

Ysbrydoli menywod – ddoe a heddiw: mae SyM yn sefydliad unigryw a luniwyd gan ei aelodau. Ym 1915, aethom ati i roi llais i fenywod a bod yn rym er daioni yn y gymuned. Ers hynny, mae ein haelodau a’n huchelgeisiau fel ei gilydd wedi tyfu’n aruthrol. Heddiw, ni yw’r sefydliad menywod mwyaf yn y DU ac rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn lle y mae pawb o bob cenhedlaeth yn ymddiried ynddo, i rannu profiadau a dysgu oddi wrth ein gilydd. Mae aelodaeth o SyM yn cynnig y cyfle i gwrdd â merched yn eich ardal leol yn bersonol ac yn rhithwir, i wneud ffrindiau a gwneud gwahaniaeth yn eich cymuned. Rydym yn ymgyrchu’n genedlaethol ar ystod eang o faterion ac yn darparu cyfleoedd dysgu gydol oes a hunanddatblygiad i fenywod yng Nghymru a Lloegr.

Y Comisiwn Etholiadol

Ni yw’r corff annibynnol sy’n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb.

The Politics Project

Yn ‘The Politics Project’ rydym yn arbenigo mewn cefnogi pobl ifanc a gwleidyddion i gael sgyrsiau pwerus sy’n meithrin dealltwriaeth, ymddiriedaeth a pherthnasoedd ac yn arwain at newid gwirioneddol mewn cymunedau. Byddai’n hawdd meddwl bod pobl ifanc wedi rhoi’r gorau i ofalu am wleidyddiaeth a bod gwleidyddiaeth wedi rhoi’r gorau i ofalu amdanyn nhw. Gyda nifer isel o bobl ifanc yn pleidleisio mewn etholiadau a gwleidyddion yn ei chael hi’n anodd ymgysylltu â phobl ifanc, gall ymddiriedaeth a dealltwriaeth rhwng y ddau grŵp hyn deimlo ei fod ar i lawr. Ond mae pobl ifanc yn poeni am leisio eu barn, yn enwedig ar faterion sydd o bwys iddynt. Weithiau nid ydynt yn teimlo y gallant ymuno â’r sgwrs ac ymgysylltu â phobl mewn grym. Gall pobl ifanc deimlo wedi’u dadrithio a heb eu hysbrydoli gan y broses gwneud penderfyniadau. Efallai eu bod yn credu nad ydyn nhw’n gwybod digon neu’n meddwl bod rhywun arall yn gwybod yn well. Efallai y byddant yn teimlo nad yw eu llais yn cyfrif.