Polisi Cwcis - Un Llais Cymru
Mynd i'r cynnwys

Polisi Cwcis 

Beth yw Cwcis?

Mae cwcis a thechnolegau tebyg yn ddogfennau geiriol bach iawn neu ddarnau o god sy’n aml yn cynnwys cod adnabod unigryw. Pan ewch i wefan neu pan ddefnyddiwch gymhwysiad symudol, mae cyfrifiadur yn gofyn i’ch cyfrifiadur neu declyn symudol chi am ganiatâd i arbed y ffeil ar eich cyfrifiadur neu declyn symudol a chael mynediad at wybodaeth. Efallai y bydd gwybodaeth a gasglwyd trwy gwcis a thechnolegau tebyg yn cynnwys dyddiad ac amser yr ymweliad a sut rydych yn defnyddio gwefan neu gymhwysiad symudol penodol.

Pam ydyn ni’n defnyddio Cwcis

Yn ystod eich ymweliad â’n gwefan mae cwcis yn gwneud yn siŵr eich bod wedi mewngofnodi trwy gydol yr amser, fod yr holl eitemau’n dal yn eich basged siopa a bod y wefan yn dal i weithio’n iawn. Mae’r cwcis hefyd yn gofalu y gallwn weld sut mae ein gwefan yn cael ei defnyddio a sut allwn ei gwella. Hefyd, gan ddibynnu ar eich dewisiadau, efallai y defnyddir ein cwcis ein hunain i gyflwyno hysbysebion wedi’u targedu ichi sy’n gweddu i’ch diddordebau personol.

Pa fath o Gwcis ydyn ni’n eu defnyddio?

Cwcis angenrheidiol

Mae’r cwcis hyn yn angenrheidiol er mwyn i’r wefan weithio’n iawn. Gellir cyflawni rhai o’r gweithredoedd trwy ddefnyddio’r cwcis hyn:

  • Arbed eich dewis gwcis ar gyfer y wefan hon
  • Arbed dewis ieithoedd
  • Mewngofnodi ar ein porth. Mae angen inni wirio a ydych wedi mewngofnodi.
  • Storio nwyddau mewn basged siopa ar gyfer pryniannau ar-lein, wrth archebu lle ar Fodiwl Hyfforddiant er enghraifft.

Cwcis perfformiad

Defnyddir y cwcis hyn i gasglu gwybodaeth ystadegol am y defnydd a wneir o’n gwefan, a elwir weithiau yn gwcis dadansoddol. Rydym weithiau’n defnyddio’r data ar gyfer optimeiddio ein gwefan a’i pherfformiad cyffredinol.

Cwcis ffwythiannol

Mae’r cwcis hyn yn cynnig mwy o wasanaethau i’n hymwelwyr ar-lein/â’n gwefan. Mae’r cwcis hyn yn gallu cael eu gosod gan ein darparwyr gwasanaeth allanol neu ein gwefan ein hunain. Efallai y caiff neu na chaiff y gwasanaethau hyn eu troi ymlaen pan dderbyniwch y categori hwn:

  • Gwasanaethau sgwrsio byw
  • Gwylio fideos ar-lein
  • Botymau rhannu cyfryngau cymdeithasol
  • Mewngofnodi ar ein gwefan gyda chyfryngau cymdeithasol

Tracio Cwcis

Fel arfer mae’r cwcis hyn yn cael eu gosod gan bartneriaid hysbysebu allanol ac fe’u defnyddir ar gyfer proffilio a thracio data ar draws nifer o wefannau. Os dderbyniwch y cwcis hyn, efallai y byddwn yn dangos ein hysbysebion ar wefannau eraill, gan ddibynnu ar eich proffil defnyddiwr a’ch dewisiadau.

Mae’r cwcis hyn hefyd yn arbed data am faint o ymwelwyr sydd wedi gweld neu wasgu ar ein hysbysebion er mwyn gwella ymgyrchoedd hysbysebu.

Ydw i’n gallu gwaredu neu ddiffodd Cwcis?

Gallech ddewis tynnu allan o’r holl Gwcis heblaw am y cwcis angenrheidiol. Yn eich gosodiadau porydd, gallwch newid y gosodiadau i sicrhau y bydd cwcis yn cael eu blocio.

Mae’r rhan fwyaf o borwyr yn rhoi esboniad ichi ar sut i wneud hyn eich hun; fodd bynnag, os ydych yn blocio’r cwcis, mae’n bosib na fyddwch yn gallu mwynhau yr holl nodweddion y mae ein gwefan yn eu cynnig, a gall effeithio eich profiad o’i defnyddio.